Pris Tlodi Disgyblion – Defnyddio Dull Ysgol Gyfan i wella llesiant plant o gefndir difreintiedig ac incwm isel
Prosiect newydd, cyffrous yw Pris Tlodi Disgyblion, sy’n cael ei gyflwyno gan Plant yng Nghymru mewn partneriaeth ag ystod o gyrff eraill, gan gynnwys Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, y 4 Consortiwm Addysg Rhanbarthol yng Nghymru, ac yn cael ei lywio gan nifer o arweinwyr addysg a pholisi sydd ag arbenigedd a diddordeb yn y maes. Cefnogir y prosiect gan gyllid trwy Is-adran Cymorth i Ddysgwyr Llywodraeth Cymru yn y Gyfarwyddiaeth Addysg.
Yn ystod Cyfnod 1 y prosiect datblygwyd cyfres o Ganllawiau ar gyfer ysgolion ac addysgwyr, i gynyddu ymwybyddiaeth o effaith tlodi ar brofiadau ysgol pob dydd disgyblion o deuluoedd difreintiedig ac incwm isel. Mae pob un o’r 5 canllaw yn rhoi sylw i agwedd wahanol ar effeithiau tlodi ar ddisgyblion, yn nodi’r materion neu’r problemau sy’n gysylltiedig â thlodi, yn amlygu effaith hynny ar ddisgyblion, ac yn cynnig atebion cost isel neu ddi-gost i ysgolion ar y pynciau canlynol:
- Deall achosion, prif sbardunau ac effaith byw mewn teuluoedd incwm isel ar ddisgyblion
- Bwyd a bod yn newynog
- Gwisg ysgol a dillad
- Cyfranogi ym mywyd yr ysgol
- Y berthynas rhwng y cartref a’r ysgol
Mae’r canllawiau i’w gweld ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru.
Mae Plant yng Nghymru wedi recriwtio Swyddog Datblygu i gyflawni Cyfnod 2 y prosiect. Bydd hynny’n cynnwys nodi ysgolion ac ymgysylltu’n uniongyrchol â nhw er mwyn:
- Cyflwyno gweithgareddau hyfforddi i ysgolion gan ddefnyddio adnoddau sy’n cydweddu â’r gyfres o ganllawiau Pris Tlodi Disgyblion
- Rhoi cyngor a chefnogaeth i ysgolion, trwy aelod penodol o staff
- Gweithio gydag ysgolion i ddatblygu cynlluniau gweithredu fydd yn lleihau effaith tlodi ac yn hybu llesiant
- Adeiladu sylfaen o dystiolaeth ar effeithiolrwydd amddiffyn rhag tlodi mewn ysgolion, gan ddefnyddio’r canllawiau Pris Tlodi Disgyblion
- Canfod enghreifftiau o arfer addawol wrth amddiffyn rhag tlodi, gan adeiladu ar y canllawiau Pris Tlodi Disgyblion
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, anfonwch ebost at kate.thomas@childreninwales.org.uk
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
08.10.20 LANSIWYD ADRODDIAD NEWYDD: COVID 19 a’r effaith ar deuluoedd incwm isel a...
02.12.19 Adolygiad Tlodi Plant Llywodraeth Cymru
02.12.19 Cymru Fwy Cyfartal - Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
02.12.19 Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
29.11.19 Pris Tlodi Disgyblion – Defnyddio Dull Ysgol Gyfan i wella llesiant plant...
29.10.19 Rhwydwaith Ymchwil Tlodi Tanwydd: Digwyddiad Tlodi Tanwydd yng Nghymru, 25 ...
22.10.19 Arolwg Tlodi Plant A Theuluoedd 2019
21.09.16 Yr agenda i blant, pobl ifanc a theuluoedd, 21/09/16 [C]
01.07.15 Plant yng Nghymru yn croesawu ffocws ar dlodi fel mater hawliau plant mewn ...
26.03.15 Lansio Cymru Ifanc - Young Wales, 26/03/15 [C]
12.12.14 Trechu tlodi: trafod argymhelliad yr Undeb Ewropeaidd am fuddsoddi mewn pla...
20.10.14 Adroddiad yn amlygu diffyg cynnydd wrth ddiwallu targedau tlodi plant, 20/1...
14.10.14 Pryderon y Comisiynydd Plant eisoes yn realiti, 14/10/14 [C]
11.08.14 Adroddiad yn amlygu effaith diwygio lles Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar de...
22.10.19 Adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru: Tlodi Tanwydd
09.08.19 Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Ymchwiliad ...
09.08.19 Adroddiad Comisiwn Metrig Cymdeithasol 2019, 29/07/2019 [C/Ll/A/G.I.]
23.07.19 Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant: Dywed y cyfrifiadur “Na!” Cyfnodau 1 a...
17.07.19 Tyfu i fyny mewn tlodi yn y DU yn 2019
29.04.19 Ymchwiliad i Fwyd Plant yn y Dyfodol – Adroddiad terfynol
19.03.19 Ymchwiliad i ddatganoli budd-daliadau lles, 19/03/2019
There are no upcoming training events relating to this subject.
There are no upcoming events relating to this subject.
10.11.20 Bwletin Rhywdwaith Dileu Tlodi Plant (Hydref 2020)
07.11.20 COVID 19 a’r effaith ar deuluoedd incwm isel a difreintiedig
07.11.20 Adroddiad ar Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd 2019
09.10.19 Papur briffio: galw o’r newydd am Gynllun Cyflawni ym maes Tlodi Plant
13.08.18 Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru: Canlyniadau Arolwg Plant a Theuluoed...
24.07.18 Ystyriaethau Allweddol o’r Arolwg o Dlodi Plant a Theuluoedd 2018
06.12.17 Digwyddiad Rhanbarthol Tlodi Plant, De Ddwyrain Cymru - 17 Hydref 2017
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks