Gynghrair dros Fuddsoddi mewn Plant
Prosiect dan arweiniad Plant yng Nghymru yw’r Gynghrair dros Fuddsoddi mewn Plant (y DU) gan weithio mewn partneriaeth â Plant yn yr Alban, Plant yn Lloegr a Plant yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan yr holl blatfformau hyn aelodaeth aml-sectorol.
Mae Cynghrair y DU, a gafodd ei lansio’n gyhoeddus yng nghynhadledd Plant yn yr Alban yng Nghaeredin ym Mehefin, yn rhan o Gydweithrediad ehangach sy’n cael ei arwain gan glymblaid Cynghrair yr Undeb Ewropeaidd dros Fuddsoddi mewn Plant.
Nod y Cydweithrediad yw ‘sicrhau gweithrediad effeithiol Argymhelliad y Comisiwn Ewropeaidd ‘Investing in Children-Breaking the Cycle of Disadvantage’ drwy hwyluso cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid ar lefel yr Undeb Ewropeaidd a’r lefel genedlaethol a chefnogi gweithgareddau eiriol a chyfathrebu effeithiol’.
Mae’r Argymhelliad yn rhoi arweiniad defnyddiol i bob Aelod-wladwriaeth Ewrop ar sut i ymdrin â thlodi plant a hybu lles plant. Mae’n eiriol dros fuddiannau gorau’r plentyn, cyfleoedd cyfartal a chymorth i’r rhai mwyaf anfanteisiol ar yr un pryd â sicrhau darpariaeth gyffredinol o safon i bawb, sy’n ganolog i ymdrechion i drechu tlodi plant.
Disgwylir i’r Cydweithrediad gyfrannu at dri amcan gwleidyddol bras sef
- Sicrhau a chynnal yr ewyllys gwleidyddol i drechu tlodi plant a hybu lles plant
- Sbarduno a chefnogi diwygiad polisïau ac arfer ar sail yr hyn rydym yn gwybod ei bod yn gweithio orau i blant
- Cryfhau cyfranogiad ystyrlon rhanddeiliaid perthnasol mewn penderfyniadau ar bolisi cyhoeddus a dyrannu adnoddau ar gyfer plant
Bydd rhaglen weithgareddau Cynghrair y DU yn cynnwys –
- Datblygu Cynghrair y DU trwy adeiladu ar strwythurau cydweithio presennol
- Nodi cyfleoedd a chynllunio gweithgareddau a all gael eu darparu ar draws y 4 cenedl (ledled y DU) o dan faner Cynghrair y DU
- Digwyddiad cenedlaethol a fydd yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn (2014)
- Mynd ati i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Bydd Cynghrair y DU yn cynnal nifer o weithgareddau i gefnogi’r ymgyrch yn ystod gweddill 2014 ac yn ceisio defnyddio cyfleoedd o’r UE (Ewrop 2020; Tymor Ewropeaidd, Cronfeydd Strwythurol) i hybu buddsoddiad mewn plant. Rydym yn gofyn i wleidyddion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch hon a fydd yn dod i ben mewn cynhadledd ym mis Rhagfyr 2014
Mae buddsoddi mewn plant yn gwneud synnwyr cymdeithasol ac economaidd. Drwy roi blaenoriaeth i blant a phobl ifanc ym mhopeth a wnawn ni, rydym nid yn unig yn cadw ymrwymiad i gefnogi’r sawl sy’n cael eu taro’n galetach gan yr argyfwng, ond hefyd yn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau prin ac yn cyflawni arbedion yn y tymor hir. Mae ymyrryd ac atal yn gynnar yn arbed arian, yn amddiffyn plant ac yn gwobrwyo cymdeithas.
Adnoddau
Argymhelliad y Comisiwn Ewropeaidd Investing in children: breaking the cycle of disadvantage http://ec.europa.eu/social/BlobServlet?docId=9762&langId=en
Cynghrair yr Undeb Ewropeaidd dros Fuddsoddi mewn Plant – http://www.alliance4investinginchildren.eu/
Cynhadledd – http://www.plantyngnghymru.org.uk/ein-gwaith/tlodi/gynghrairdrosfuddsoddimewnplant/
Animeiddiadau tlodi plant – http://www.plantyngnghymru.org.uk/newyddion/archif-newyddion/launch-child-poverty-animations-wenis/
Papur briffio ar gyfer Aelodau Seneddol – UK Alliance Briefing for MPs
Cefnogir gan Y Comisiwn Ewropeaidd
Gweler isod am wybodaeth ar ein gwaith dlodi arall.
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
08.10.20 LANSIWYD ADRODDIAD NEWYDD: COVID 19 a’r effaith ar deuluoedd incwm isel a...
02.12.19 Adolygiad Tlodi Plant Llywodraeth Cymru
02.12.19 Cymru Fwy Cyfartal - Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
02.12.19 Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
29.11.19 Pris Tlodi Disgyblion – Defnyddio Dull Ysgol Gyfan i wella llesiant plant...
29.10.19 Rhwydwaith Ymchwil Tlodi Tanwydd: Digwyddiad Tlodi Tanwydd yng Nghymru, 25 ...
22.10.19 Arolwg Tlodi Plant A Theuluoedd 2019
21.09.16 Yr agenda i blant, pobl ifanc a theuluoedd, 21/09/16 [C]
01.07.15 Plant yng Nghymru yn croesawu ffocws ar dlodi fel mater hawliau plant mewn ...
26.03.15 Lansio Cymru Ifanc - Young Wales, 26/03/15 [C]
12.12.14 Trechu tlodi: trafod argymhelliad yr Undeb Ewropeaidd am fuddsoddi mewn pla...
20.10.14 Adroddiad yn amlygu diffyg cynnydd wrth ddiwallu targedau tlodi plant, 20/1...
14.10.14 Pryderon y Comisiynydd Plant eisoes yn realiti, 14/10/14 [C]
11.08.14 Adroddiad yn amlygu effaith diwygio lles Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar de...
22.10.19 Adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru: Tlodi Tanwydd
09.08.19 Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Ymchwiliad ...
09.08.19 Adroddiad Comisiwn Metrig Cymdeithasol 2019, 29/07/2019 [C/Ll/A/G.I.]
23.07.19 Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant: Dywed y cyfrifiadur “Na!” Cyfnodau 1 a...
17.07.19 Tyfu i fyny mewn tlodi yn y DU yn 2019
29.04.19 Ymchwiliad i Fwyd Plant yn y Dyfodol – Adroddiad terfynol
19.03.19 Ymchwiliad i ddatganoli budd-daliadau lles, 19/03/2019
There are no upcoming training events relating to this subject.
There are no upcoming events relating to this subject.
10.11.20 Bwletin Rhywdwaith Dileu Tlodi Plant (Hydref 2020)
07.11.20 COVID 19 a’r effaith ar deuluoedd incwm isel a difreintiedig
07.11.20 Adroddiad ar Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd 2019
09.10.19 Papur briffio: galw o’r newydd am Gynllun Cyflawni ym maes Tlodi Plant
13.08.18 Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru: Canlyniadau Arolwg Plant a Theuluoed...
24.07.18 Ystyriaethau Allweddol o’r Arolwg o Dlodi Plant a Theuluoedd 2018
06.12.17 Digwyddiad Rhanbarthol Tlodi Plant, De Ddwyrain Cymru - 17 Hydref 2017
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks