Tlodi
Credwn y dylai Llywodraeth Cymru:
- Ddarparu arweinyddiaeth glir a chadarn ar drechu tlodi plant, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu cyrraedd ei botensial llawn, drwy ymgysylltu â Llywodraeth y DU, cyrff cyhoeddus yng Nghymru a phob sector – gan gynnwys cyflogwyr
- Sefydlu a monitro cynllun cyflawni penodol ar gyfer tlodi plant, gyda cherrig milltir a thargedau uchelgeisiol, i hybu gweithrediad strategaeth genedlaethol sy’n hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau seiliedig ar dystiolaeth er mwyn sicrhau nad oes yr un plentyn dan anfantais o ran gwireddu ei hawliau o dan CCUHP oherwydd incwm teuluol
- Sicrhau bod trechu tlodi plant yn parhau’n flaenoriaeth mewn trefniadau newydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a bod mesurau atebolrwydd pendant ar waith
Dengys ffigurau a gafodd eu cyhoeddi yn 2016 fod 29% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Dwedir bod plant yn byw mewn tlodi os ydynt yn byw mewn teuluoedd ag incwm sydd o dan 60% o’r incwm canolrif. Gall tlodi gael effaith ddifrodus ar fywyd plentyn, gyda phlant yn eisiau bwyd ac yn teimlo’n oer, ac yn llai abl i ymuno mewn gweithgareddau mae eu cymheiriaid yn eu gwneud. Mae tlodi’n gysylltiedig â chyflawniad academaidd is a canlyniadau iechyd a rhagolygon cyflogaeth gwaeth.
Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn gweithio i leihau lefelau tlodi plant a lliniaru’r effaith ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cynnwys:
- Rheoli a chyd-drefnu Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
- Ymwneud yn rhagweithiol â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, swyddogion ac aelodau’r Cynulliad wrth ddatblygu a chyflwyno deddfwriaeth a pholisïau mewn perthynas â thlodi plant
- Trefnu digwyddiadau tlodi plant cenedlaethol a rhanbarthol
- Cynnal arolwg blynyddol ar dlodi plant yng Nghymru
- Cynrychioli Cymru ar Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU
- Lobio Llywodraeth y DU mewn perthynas â materion sydd heb eu datganoli, gan gynnwys diwygio lles
- Gweithio’n rhagweithiol gyda’n cyrff aelod drwy ein fforymau a rhwydweithiau
- Ymgysylltu â rhaglenni gwaith gweithgorau a fforymau eraill sy’n canolbwyntio ar yr agenda tlodi ehangach neu faterion polisi penodol
- Ymgysylltu a lobio partneriaid lleol i helpu i sicrhau bod polisïau a rhaglenni ar waith yn lleol sy’n ymdrin â thlodi plant
- Ymwneud ar lefel Ewropeaidd ynghylch materion tlodi plant a hybu gwaith a’r ymagwedd yng Nghymru trwy ein gwaith gyda Eurochild
- Cynhyrchu ymatebion i ymgynghoriadau, nodi blaenoriaethau polisi a llunio datganiadau a chyhoeddiadau ysgrifenedig
- Darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaeth arwyddbostio ar gyfer ein cyrff aelod mewn perthynas â gwasanaethau a blaenoriaethau allanol
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r materion hyn cysylltwch â: Karen McFarlane, Swyddog Polisi, karen.mcfarlane@childreninwales.org.uk neu Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, sean.oneill@childreninwales.org.uk.
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
08.10.20 LANSIWYD ADRODDIAD NEWYDD: COVID 19 a’r effaith ar deuluoedd incwm isel a...
02.12.19 Adolygiad Tlodi Plant Llywodraeth Cymru
02.12.19 Cymru Fwy Cyfartal - Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
02.12.19 Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
29.11.19 Pris Tlodi Disgyblion – Defnyddio Dull Ysgol Gyfan i wella llesiant plant...
29.10.19 Rhwydwaith Ymchwil Tlodi Tanwydd: Digwyddiad Tlodi Tanwydd yng Nghymru, 25 ...
22.10.19 Arolwg Tlodi Plant A Theuluoedd 2019
21.09.16 Yr agenda i blant, pobl ifanc a theuluoedd, 21/09/16 [C]
01.07.15 Plant yng Nghymru yn croesawu ffocws ar dlodi fel mater hawliau plant mewn ...
26.03.15 Lansio Cymru Ifanc - Young Wales, 26/03/15 [C]
12.12.14 Trechu tlodi: trafod argymhelliad yr Undeb Ewropeaidd am fuddsoddi mewn pla...
20.10.14 Adroddiad yn amlygu diffyg cynnydd wrth ddiwallu targedau tlodi plant, 20/1...
14.10.14 Pryderon y Comisiynydd Plant eisoes yn realiti, 14/10/14 [C]
11.08.14 Adroddiad yn amlygu effaith diwygio lles Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar de...
22.10.19 Adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru: Tlodi Tanwydd
09.08.19 Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Ymchwiliad ...
09.08.19 Adroddiad Comisiwn Metrig Cymdeithasol 2019, 29/07/2019 [C/Ll/A/G.I.]
23.07.19 Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant: Dywed y cyfrifiadur “Na!” Cyfnodau 1 a...
17.07.19 Tyfu i fyny mewn tlodi yn y DU yn 2019
29.04.19 Ymchwiliad i Fwyd Plant yn y Dyfodol – Adroddiad terfynol
19.03.19 Ymchwiliad i ddatganoli budd-daliadau lles, 19/03/2019
There are no upcoming training events relating to this subject.
There are no upcoming events relating to this subject.
10.11.20 Bwletin Rhywdwaith Dileu Tlodi Plant (Hydref 2020)
07.11.20 COVID 19 a’r effaith ar deuluoedd incwm isel a difreintiedig
07.11.20 Adroddiad ar Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd 2019
09.10.19 Papur briffio: galw o’r newydd am Gynllun Cyflawni ym maes Tlodi Plant
13.08.18 Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru: Canlyniadau Arolwg Plant a Theuluoed...
24.07.18 Ystyriaethau Allweddol o’r Arolwg o Dlodi Plant a Theuluoedd 2018
06.12.17 Digwyddiad Rhanbarthol Tlodi Plant, De Ddwyrain Cymru - 17 Hydref 2017
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks