Rhianta a Chymorth i Deuluoedd
Mae rhianta’n weithgaredd syn cael gan y sawl sy’n magu plant. Mae hyn yn cynnwys mamau a thadau, gofalwyr maeth a rhieni mabwysiadol, llys-rieni, a neiniau a theidiau. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gweithredu’n rhieni corfforaethol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd yn eu gofal. Mae llawer o ffyrdd o gefnogi teuluoedd i fagu eu plant. Mae cefnogaeth emosiynol, gwybodaeth amserol, gweithredu ymarferol ac ataliol a rhwydwaith o gymorth rhianta a pherthnasau yn gallu bod yn hanfodol wrth helpu rhai teuluoedd i ymdopi.
Mae rhianta positif yn barchus i fuddiannau gorau a hawliau plant, ac yn allweddol i ganlyniadau llwyddiannus ar gyfer plant. Mae Plant yng Nghymru yn cefnogi rhianta positif sy’n ymwneud â dangos i blant sut i ymddwyn mewn ffyrdd sy’n dderbyniol i’w rhieni ac eraill. Mae rhianta positif yn helpu plant i ddeall sut a pham dylent ymddwyn mewn sefyllfaoedd gwahanol a thrwy eu canmol a’u gwybrwyo pan fyddant yn ymddwyn yn dda.
Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn cefnogi rhieni a theuluoedd fel rhan allweddol o’n gwaith am flynyddoedd lawer, ac mae gennym staff pwrpasol sy’n gwneud y gwaith hwn ers 2002.
Mae gwaith presennol Plant yng Nghymru yn y maes hwn yn cynnwys:
- Darparu hyfforddiant i amrediad o weithwyr proffesiynol
- Trefnu seminarau, cynadleddau a digwyddiadau eraill sy’n rhannu ymchwil, polisi ac arfer da
- Darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac adnoddau ar gyfer y gweithlu rhianta
- Darparu cyfleoedd i gyfnewid ymarfer a gwybodaeth trwy ein Rhwydwaith Cydlynwyr Rhianta
- Hyrwyddo dulliau o rianta positif
- Hyrwyddo defnydd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni
Am ragor o wybodaeth am unrhyw rai o’r materion hyn, cysylltwch â: Anna Westall, Swyddog Datblygu Cymorth i Deuluoedd, Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, ffôn: 029 2034 2434, e-bost: anna.westall@childreninwales.org.uk
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
12.11.20 LANSIWYD HEDDIW: Arolwg Prifysgol Abertawe ar gyfer sector y blynyddoedd cy...
14.06.19 Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o agweddau’r cyhoedd at gosb gorfforol...
30.05.19 Mae cefnogaeth gynyddol i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol, 30/05/201...
12.07.18 Amddiffyniad cyfartal a gostwng yr oedran pleidleisio yn rhan o flaenoriaet...
06.07.18 Ysgol Gynradd Millbrook yn arloesi gyda Plant yn Gyntaf, 02/07/2018 [C]
22.01.18 Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch newydd, “Mae ’na Amser i Siarad, Gw...
10.01.18 Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ar eu cynlluniau i ddileu cosb gor...
11.07.18 Plant yng Nghymru wrth ei fodd gyda’r newyddion bod llai o rieni’n smac...
13.02.17 Cynhadledd rianta, 13/02/17 [C]
21.09.16 Yr agenda i blant, pobl ifanc a theuluoedd, 21/09/16 [C]
17.03.15 Cynhadledd i archwilio rôl Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd a Phobl Ifa...
10.09.14 Ffocws ar rôl rhaglenni i gefnogi rhieni, 10/09/14 [C]
12.08.11 Teuluoedd, nid ardaloedd, sy’n dioddef anfantais cefn gwlad , 2/4/08
09.09.19 Ymgynghori ar gynigion dros dro i ddiwygio achosion plant yn y Llys y Gyfra...
13.08.19 Adroddiad Blynyddol Dechrau’n Deg Ebrill 2018 – Mawrth 2019, 07/08/2019...
09.08.19 Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Adroddiad Cam 1 Bil Diddymu Amddiffyn...
17.10.18 Magu Plant. Rhowch amser iddo: Llwybr Gwybodaeth y Blynyddoedd Cynnar
21.08.18 Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant: Cost Plentyn yn 2018, 20/08/2018 [C/Ll/A/G...
18.01.18 Cynnig Deddfwriaethol i Ddileu Amddiffyniad Cosb Resymol
12.09.17 Gorchmynion Gwarcheidwaeth Arbennig
There are no upcoming training events relating to this subject.
There are no upcoming events relating to this subject.
09.05.17 Cynhadledd Rhianta 2017: Beth sy'n gwneud Swyddog Cefnogi teulu da?
24.03.17 Rhianta a chymorth i deuluoedd: Adroddiad y gynhadledd 2017
24.03.17 Cynhadledd Rhianta 2017: Cyflwyniad Karen Graham
24.11.15 Taflen perthnasoedd iach
20.11.14 Canllaw Gofal gan Berthnasau i Gymru
30.10.14 Cynhadledd Wythnos y Rhieni 2014
07.01.13 Safonau Galwedigaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng Nghymr...
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks