Prosiect Paratoi
Mae hwn yn brosiect newydd, cyffrous, sy’n cael ei gyflwyno gan Lleisiau o Ofal Cymru ar y cyd â Plant yng Nghymru, gyda chefnogaeth arian gan Lywodraeth Cymru o ‘Gronfa Arloesi Darpariaeth a Chefnogaeth Addas – Grant Atal Digartrefedd’ 2019-20. Un o nodau’r gronfa hon yw cynyddu’r cymorth tai sydd ar gael i bobl ifanc agored i niwed sy’n pontio o ofal awdurdod lleol.
Nodau a Diben
Bydd y prosiect Paratoi yn cyd-fynd â chynllun cyfredol Llywodraeth Cymru, Pan fydda i’n Barod, gan ddarparu ymyriad dwysach sy’n ceisio adleisio’r gefnogaeth a’r arweiniad mae pobl ifanc nad ydynt yn derbyn gofal yn cael yng nghyd-destun y teulu. Bydd hyn yn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r anghydraddoldebau mae’r boblogaeth sydd â phrofiad o ofal yn eu hwynebu wrth bontio o ofal.
Ein nodau cyffredinol yw:
- Darparu cefnogaeth i bobl ifanc bontio’n ddiogel o ofal (gan gynnwys ystyriaethau ynghylch gohirio gadael gofal a lleihau risg digartrefedd ac ansefydlogrwydd tai)
- Hwyluso cefnogaeth ddi-fwlch yn y gymuned, sy’n fwy cynaliadwy yn y tymor hir, heb ddibynnu ar gyllid yn y dyfodol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
- Grymuso pobl ifanc trwy wella’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio i adael gofal
- Meithrin gallu pobl ifanc i eiriol o blaid newid
- Meithrin gwydnwch a mecanweithiau sy’n cadw pobl ifanc yn ddiogel rhag digartrefedd a risgiau cysylltiedig, gan wella’u llesiant cyffredinol
- Cyfrannu at nod y gronfa, sef atal digartrefedd a chyflawni sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal
- Cynnwys pobl ifanc wrth gynllunio, cyflwyno a gwerthuso’r prosiect
Diben y cyllid hwn yw cyflawni’r prosiect Paratoi mewn 3 ardal awdurdod lleol yng Nghymru – Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin a RhCT, i bobl ifanc sy’n gadael gofal.
Bydd y prosiect yn darparu model tair haen o gefnogaeth ar gyfer y bobl ifanc hynny sy’n pontio o ofal; cefnogaeth unigol, cefnogaeth gan gyfoedion, cefnogaeth gan y gymuned. Bydd hyn yn cynnwys:
- Hwyluso cefnogaeth ddi-fwlch yn y gymuned
- Gwella gwybodaeth pobl ifanc am eu hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio i adael gofal, gan gynnwys gwella eu galluoedd ariannol
- Darparu cefnogaeth a hyfforddiant i’w galluogi i fyw’n annibynnol
Canfod beth yw eu hamgylchiadau o ran cyflogaeth ac addysg, a datblygu cynllun ar y cyd i sicrhau nad yw pontio o ofal yn amharu ar eu gwaith, eu hyfforddiant a/neu eu haddysg.
Os hoffech wybod mwy am y prosiect neu gyfranogi i’n gwaith cysylltwch ag Sean O’Neill (Cyfarwyddwr Polisi) am ragor o wybodaeth.
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
21.05.20 NYAS Cymru yn rhyddhau adroddiad newydd ar safbwyntiau a phrofiadau plant a...
12.09.19 Mae Cynllun Interniaeth y Gwasanaeth Sifil ar gyfer Pobl Ifanc sy'n Gadael ...
14.02.19 Cynllun i esemptio gadawyr gofal ifanc rhag y dreth gyngor o 01 Ebrill 2019...
08.01.19 Cystadleuaeth ysgrifennu creadigol i blant sy’n derbyn gofal a’r sawl s...
23.11.18 Cynnig eithriadau i'r Dreth Cyngor ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, 23/11/1...
27.09.18 Amddiffynwyr Hawliau Dynol Plant yn ymateb i ymgynghoriad y Diwrnod Trafod ...
21.09.16 Yr agenda i blant, pobl ifanc a theuluoedd, 21/09/16 [C]
29.09.08 Y mae Prif Weinidog Cymru’n annerch Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr
23.09.08 Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf, 23/9/08...
28.03.07 70 Y Cant O Ysgolion Cynradd  Disgybl Sydd Newydd Gael Profedigaeth
02.12.19 Rhaglen newydd gan Academi Prydain yn ail-fframio dadleuon polisi cyhoeddus...
26.09.19 Profiadau a chanlyniadau plant a phobl ifanc o Gymru sy'n cael Gorchmynion ...
13.08.19 ‘Cadw’n Ddiogel?’ Angen gwell cefnogaeth ar gyfer plant sydd mewn per...
28.01.19 Gwerthuso’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal,...
13.11.18 Cynnig eithriadau i’r Dreth Cyngor ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, 07/11...
09.10.18 Dim hyfforddiant cefnogi plant mewn gofal i 75% o athrawon, 09/10/2018 [C/L...
There are no upcoming training events relating to this subject.
There are no upcoming events relating to this subject.
12.02.20 Diweddariad prosiect i weithwyr proffesiynol
12.02.20 Cadw mewn cysylltiad â’ch teulu
27.08.19 Fe ddwedsoch chi, fe wrandawon ni!
20.03.19 Lleisio barn ar dy addysg
01.02.19 Ymwneud yn Fwy â Gofal Cymdeithasol: Canllaw ar gyfer Nyrsys Arbenigol ar ...
20.09.18 Arian a chyllidebu
16.07.18 Sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn eich cyfarfod adolygu
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks