Grŵp Monitro CCUHP Cymru
Cynghrair genedlaethol o gyrff anllywodraethol ac asiantaethau academaidd yw Grŵp Monitro CCUHP Cymru. Mae’r grŵp yn gyfrifol am fonitro a hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru. Sefydlwyd y Grŵp Monitro CCUHP yn 2002 ac ers Mai 2016, fe’i hyrwyddir gan Blant yng Nghymru. Bu’r Grŵp yn gweithio gyda Phwyllgor y CU ar Hawliau’r Plant a chyflwynodd adroddiadau cymdeithas sifil er mwyn hysbysu Archwiliadau olynol Gwladwriaethau sy’n Bartïon i’r DU.
Nodau Grŵp Monitro CCUHP Cymru yw
- Gweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau bod y gwaith o fonitro’r CCUHP yng Nghymru’n cael ei gysylltu’n effeithiol.
- Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu dangosyddion i gyfrannu at yr amcan uchod.
- Monitro gweithrediad y CCUHP yng Nghymru drwy gasglu gwybodaeth drwy waith ymchwil a chofnodi materion.
- Hyrwyddo’r Confensiwn Hawliau Plant (CHP), Arsylwadau cloi ac argymhellion adroddiad y Grŵp Monitro i’r CU
- Gweithio i sicrhau y gwnaed trefniadau i gyflwyno adroddiadau’n effeithiol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy gael Llywodraeth Cymru, plant, pobl ifanc, a chyrff anllywodraethol i weithio gyda’i gilydd yn y broses hon.
- Annog plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau monitro ac adrodd.
- Adnabod cyfleoedd i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar weithredu’r CCUHP.
- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, yn enwedig plant a phobl ifanc o waith y CCUHP
- Rhannu gwybodaeth a hyrwyddo rhwydweithiau yng Nghymru sy’n ymwneud â’r CCUHP.
- Sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli mewn fforymau a digwyddiadau ledled y DU sy’n ymwneud â’r CCUHP.
Mae aelodau’r Grŵp Monitro’n gynrychiolwyr o sefydliadau anllywodraethol ac academyddion, ac fe’u henwebu ganddynt.
- Plant yng Nghymru
- Barnardos Cymru
- The Children’s Society
- Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig – Prifysgol Aberystwyth
- Comisiynydd Plant Cymru (sylwedyddion)
- NSPCC Cymru
- Chwarae Cymru
- Achub y Plant Cymru
- UNICEF (sylwedyddion)
- Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (sylwedyddion)
- Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (sylwedyddion)
O bryd i’w gilydd, efallai y bydd aelodau’n ystyried gwahodd cynrychiolwyr o sefydliadau eraill (fel pobl nad ydynt yn aelodau) i gyfarfod, neu fynd i ran o gyfarfod.
Gweithgareddau
O dro i dro, mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru’n cynhyrchu nifer o adroddiadau, ymatebion i ymgynghoriadau a briffiau y mae modd eu lawrlwytho o Adran Adnoddau’r wefan hon. Mae’r rhain yn cynnwys
Adroddiad Cyfunol ynghylch yr Argymhellion i Gymru o’r
- Sylwadau Cloi ar Bumed Adroddiad Cyfnodol Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon (Gorffennaf 2016);
- Adroddiad Cymdeithas Sifil Prydain Fawr i Bwyllgor y CU: Cwestiynau a Awgrymir ac Argymhellion i’w gofyn i’r Gwladwriaethau sy’n Bartïon a llywodraethau datganoledig (Mai 2016) ac
- Adroddiad Grŵp Monitro CCUHP i Bwyllgor y CU (Gorffennaf 2015).
Yn ychwanegol, gellir cyrchu gweithgareddau activities published Grwp Monitro CCUHP cyn 2014 a gwybodaeth berthnasol ar y CCUHP ar adrannau perthnasol gwefan Hawliau Plant yng Nghymru.
Cyswllt
Am fwy o wybodaeth am Grŵp Monitro CCUHP yng Nghymru, cysylltwch â Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, sean.oneill@childreninwales.org.uk os gwelwch yn dda.
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
28.01.15 Plant yng Nghymru yn croesawu penodiad y Comisiynydd Plant, 28/01/15 [C]
20.11.14 'Sgwrs genedlaethol' am bleidleisiau’n 16 oed, 20/11/14 [C]
23.07.14 Galw am dystiolaeth - Adolygu rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru,...
16.07.14 Cynulliad Cenedlaethol yn lansio siarter ymgysylltu â phobl ifanc, 16/07/1...
18.06.14 Adolygiad o rôl y Comisiynydd Plant, 18/06/14 [C]
01.05.14 Dyletswydd gyfreithiol newydd i gynnal hawliau plant, 01/05/14 [C]
26.02.14 Adolygu rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru, 14/02/14 [C]
26.03.15 Lansio Cymru Ifanc - Young Wales, 26/03/15 [C]
20.11.14 Plant yng Nghymru yn nodi pen-blwydd y confensiwn hawliau plant yn 25 oed, ...
21.06.12 Arbenigwyr yn hyrwyddo hawliau plant o fewn y GIG, 21/06/12
18.10.10 Mae Pobl Anabl Ifanc yn codi pryderon gyda’r Comisiynydd Plant, 19/10/10 ...
19.03.09 Lleihau Bwlio yn Ysgolion Cymru, 19/03/09 [C]
22.01.09 Poster ar eu hawliau meddygol a ddyluniwyd gan bobl ifanc
29.09.08 Y mae Prif Weinidog Cymru’n annerch Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr
24.03.15 Cydymffurfiad y DU â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plent...
02.03.15 Adroddiad Y Gymru a Garem - Adroddiad ar ran cenedlaethau’r dyfodol, 02/0...
22.12.14 Hawliau plant i apelio a gwneud cais i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbenn...
15.12.14 Datganiad gan y Gweinidog ar Apeliadau AAA a honiadau o wahaniaethu ar sail...
10.12.14 Papur briffio polisi – Pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawl...
10.12.14 Adolygu rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru, 10/12/14 [C]
20.11.14 Pleidleisio@16? 20/11/14, [C]
There are no upcoming training events relating to this subject.
There are no upcoming events relating to this subject.
20.03.15 Cymru Ifanc - Young Wales: Diweddariad 3
10.03.15 Diweddariad Cymru Ifanc - Young Wales: Lansiad
26.02.15 Cymru Ifanc - Young Wales
26.02.15 Cymru Ifanc - Young Wales
19.01.15 Animeiddiad tlodi
19.01.15 Animeiddiad tlodi - Diweithdra
19.01.15 Animeiddiad tlodi - Iechyd
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks