Ymwneud Mwy â Gofal Cymdeithasol
Mae Ymwneud Mwy â Gofal Cymdeithasol yn gynllun newydd sy’n cael ei ddatblygu gan Blant yng Nghymru. Mae’n brosiect tair blynedd sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n edrych ar gefnogi iechyd a lles plant sy’n derbyn gofal, plant anabl a phobl ifanc a gofalwyr sy’n berthnasau.
Plant sy’n derbyn gofal
Mae Plant yng Nghymru’n gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal, rhai sy’n gadael gofal a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi i ystyried mater iechyd a lles. Mae’r prosiect yn bartneriaeth sy’n gweithio gyda Voices from Care Cymru ac eraill i ddatblygu cyfres o ganllawiau ar-lein a fydd yn rhoi gwybodaeth i bobl ifanc mewn gofal am eu hawliau o dan CCUHP, prif faterion iechyd a lles yn ogystal â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd (Cymru). Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y prosiect neu ymwneud â’n gwaith cysylltwch ag Emma Sullivan ar emma.sullivan@childreninwales.org.uk.
Anabledd
Bydd y rhan hon o’r prosiect yn helpu plant a phobl ifanc anabl i deimlo’n fwy hyderus a gwybod mwy am eu hawliau’n unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd (Cymru). Bydd y prosiect yn cynnig gweithdai ar gyfer pobl ifanc ar gymryd rhan a phwysigrwydd erthygl 12 o CCUHP, ‘Parchu safbwyntiau’r plentyn.’ Bydd y prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc i roi’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i helpu plant anabl eraill, a hyfforddi gweithwyr proffesiynol ynglŷn â sut i gymryd rhan. I gael mwy o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â info@childreninwales.org.uk
Gofal gan berthynas
Bydd y prosiect Ymwneud Mwy hefyd yn gweithio gyda gofalwyr sy’n berthnasau i ddod â nhw ynghyd i gefnogi ei gilydd, a chynnig hyfforddiant i roi llais iddynt, yn ogystal â chreu adnoddau ar-lein.
Mae gofal gan berthynas yn golygu darparu gofal i blant sydd wedi gwahanu oddi wrth eu rhieni, neu os nad yw eu rhieni’n gallu gofalu amdanynt. Teidiau a neiniau yw’r grŵp mwyaf o ofalwyr sy’n berthnasau, ond gall hefyd gynnwys brodyr a chwiorydd hŷn, modrybedd ac ewythrod, a pherthnasoedd eraill, ffrindiau a chymdogion. Amcangyfrifir bod 200,000 – 300,000 o blant yn byw gyda gofalwyr sy’n berthnasau yn y Deyrnas Unedig.
I gael mwy o wybodaeth am y gwaith gyda gofalwyr sy’n berthnasau, cysylltwch â Deborah Smith deborah.smith@childreninwales.org.uk.
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
26.06.14 Meini prawf cymhwystra a fframwaith canlyniadau newydd ar gyfer gwasanaetha...
01.05.14 Diwygiadau i Wasanaethau Cymdeithasol yn cael eu deddfu yng Nghymru, 01/05/...
18.03.14 Pasio Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) , 18/03/14 [C]
04.02.14 Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Dull Gweithredu, 29/01/14...
24.01.14 Gwasanaethau eiriolaeth plant, 24/01/14 [C]
27.11.13 Atal ac ymyrryd yn gynnar mewn gwasanaethau cymdeithasol, 22/11/13 [C]
12.11.13 Datganiad Ysgrifenedig – Diogelu ac Amddiffyn, 07/11/13 [C]
07.04.08 Swydd newydd a fydd yn helpu i amddiffyn plant agored i niwed sy’n ffoadu...
28.03.07 70 Y Cant O Ysgolion Cynradd  Disgybl Sydd Newydd Gael Profedigaeth
30.06.14 Ymgynghori ar Adolygu’r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol...
26.06.14 Datganiad Ysgrifenedig – Fframweithiau canlyniadau iechyd a gofal cymdeit...
26.06.14 Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad Ysgrifenedig am Ddeddf Gwasanaethau Cymd...
26.06.14 Y fframwaith canlyniadau cenedlaethol ar gyfer pobl sydd angen gofal a chym...
26.06.14 Datganiad Ysgrifenedig – Fframweithiau canlyniadau iechyd a gwasanaethau ...
13.06.14 Opsiynau ar gyfer y Fframwaith Cymhwystra Gofal a Chymorth o dan Reoliadau ...
04.06.14 Ymgynghori ar y cysylltiad rhwng Fframwaith DAPP a Chofrestru’n Weithiwr ...
There are no upcoming training events relating to this subject.
There are no upcoming events relating to this subject.
Nid oes adnoddau sy'n ymwneud â’r pwnc hwn.
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks