Eiriolaeth
Mae eiriolaeth yn golygu codi llais dros blant a phobl ifanc, gan wneud yn siŵr bod eu hawliau’n cael eu parchu a bod eu barn hwy yn cael ei chlywed. Mae eiriolwyr yn esbonio safbwyntiau ac anghenion plant a phobl ifanc i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ac yn eu helpu i lywio eu ffordd o amgylch y broses benderfynu.
Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn gweithio i hyrwyddo darpariaeth gwasanaethau eiriolaeth o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc ers nifer o flynyddoedd. Yn 2000 cafodd Adroddiad Waterhouse, Ar Goll mewn Gofal, ei gyhoeddi. Edrychodd yr adroddiad ar gamdriniaeth plant a phobl ifanc a oedd yn derbyn gofal gan y wladwriaeth yng Ngogledd Cymru, ac ymhlith ei argymhellion roedd sefydlu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol, a sefydlu Comisiynydd Plant Cymru. Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn gweithio gyda swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a’n cyrff aelod i helpu i wireddu’r weledigaeth hon o wasanaethau eiriolaeth annibynnol i helpu i amddiffyn plant rhag camdriniaeth a niwed, ac i sicrhau bod mecanweithiau yn eu lle i alluogi i’w lleisiau gael eu clywed.
Er gwaetha’r cynnydd sydd wedi ei wneud ers adroddiad Waterhouse, mae plant a phobl ifanc yn parhau i adrodd lefel isel o wybodaeth am ddarpariaeth a gwasanaethau eiriol. Mae’r weledigaeth o sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc, yn enwedig y sawl sydd fwyaf agored i niwed, fynediad i wasanaethau eiriol annibynnol, heb ei gwireddu’n llawn eto.
Mae gwaith Plant yng Nghymru yn y maes hwn yn cynnwys:
- Cyd-drefnu Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan
- Cyd-drefnu Grŵp Cyfnewid Arfer Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc
- Cadeirio Bwrdd Rheoli Cywaith sy’n goruchwylio gwasanaeth eiriolaeth a chyngor MEIC
- Mynd ati i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a rhanddeiliaid allanol eraill
- Gweithio’n rhagweithiol gyda’n cyrff haelod sy’n darparu gwasanaethau eiriol i blant a phobl ifanc
- Ymgyrchu a lobio i ddylanwadu ar agenda’r polisi o ran eiriolaeth
- Gweithio’n rhagweithiol gydag ymarferwyr eiriol rheng flaen i gynorthwyo a chefnogi eu datblygiad
Mae gan wefan MEIC Cymru gyfleuster chwilio ar gyfer dod o hyd i brosiectau eiriolaeth yn eich ardal chi, ynghyd â manylion am bob gwasanaeth a map rhyngweithiol. Mae modd gweld yr adnodd defnyddiol hwn dan ‘Yn eich ardal chi’ yn adran Proffesiynau gwefan MEIC: https://www.meiccymru.org/in-your-area.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r materion hyn cysylltwch â: Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, Sean.Oneill@childreninwales.org.uk.
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
01.08.18 Rheoliadau gwasanaethau eirioli, 31/07/18 [C]
16.08.17 Llinell Cyngor ac Eiriolaeth i Gymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr ar draws C...
25.04.16 Amserau cyffrous o’n blaen: ProMo-Cymru yn ennill contract newydd ar gyfe...
05.04.16 Deddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol newydd i ddod i rym am hanner nos, 0...
26.01.16 Awdurdodau lleol i dderbyn £3m i weithredu deddfwriaeth gofal cymdeithasol...
18.01.16 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i’w gweithre...
09.12.15 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Sut y bydd hyn yn ...
21.08.19 Fframwaith safonau a chanlyniadau eiriolaeth i blant a phobl ifanc, 20/08/2...
12.07.18 Rheoliadau gwasanaethau Eiriolaeth, 24/05/18 [C]
31.03.17 Fframwaith safonau a chanlyniadau cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc...
07.02.17 Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Adroddiad yr ymchwiliad i'r ddarpa...
14.12.16 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016: Diweddariad p...
30.11.16 Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2015...
30.11.16 Sylwadau gan aelodau o’r Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc C...
There are no upcoming training events relating to this subject.
There are no upcoming events relating to this subject.
01.03.17 Ymateb Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan i Argymhe...
10.10.13 Galwad Unedig cychwynnol: Diwygiadau Cyfnod 2 i’r Bil Gwasanaethau Cymdei...
04.06.13 Galwad unedig am eiriolaeth annibynnol ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol a L...
01.04.13 Papur Briffio Eiriolaeth
31.03.13 Argymhellion Lleisiau Coll: diweddariad ar ôl blwyddyn
31.03.12 Ymateb i Leisiau Coll
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks