Cymru Ifanc
Cymru Ifanc – Young Wales yw’r gwaith cyfranogiad newydd sy’n cael ei ariannu gan Grant Datblygu Plant a Theuluoedd Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r prosiect, bydd Plant yng Nghymru’n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw ac yn effeithio arnynt, a’u bod yn cael eu clywed gan Lywodraeth Cymru.
Dyma’r gwaithar gyfer pob blwyddynt:
- Chwe phrosiect cyfranogol gydag ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd pob prosiect yn gweithio mewn nifer o ysgolion.
- Chwe blaenoriaeth gyfranogol gyda fforymau ieuenctid, grwpiau arbenigol a sefydliadau ledled Cymru. Dewisir y blaenoriaethau hyn gan bobl ifanc sy’n ymwneud â’r fforymau ieuenctid.
- Wyth sesiwn cynyddu ymwybyddiaeth ar CCUHP, cyfranogiad a sut mae sicrhau eu hawliau.
- Wyth cyfarfod rhwng plant a phobl ifanc a Gweinidogion a llunwyr polisi.
Rydyn ni hefyd yn datblygu amrywiaeth o ddulliau i hysbysu a chynnwys pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn y gwaith.
Mae’r gwaith wedi’i seilio ar y canlynol:
Meithrin perthnasoedd
Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda fforymau ieuenctid, ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled Cymru. Mae gan Plant yng Nghymru eisoes fwy na 200 o aelodau, ac rydyn ni’n gweithio i wella’n cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol penodol o’r lleoliadau hyn.
Grymuso ar lefel leol
Mae fforymau a sefydliadau ieuenctid yn gwneud gwaith gwych ar faterion yn eu hardaloedd lleol, a byddwn ni’n gweithio gyda nhw i nodi blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer y gwaith. Bydd Plant yng Nghymru yn dod â llais cenedlaethol ynghyd, ond hefyd yn sicrhau bod ffilmiau lleol, adroddiadau a deunyddiau eraill yn cael eu cydnabod a’u hadrodd i Lywodraeth Cymru.
Grŵp Cyfeirio
Bydd gan Cymru Ifanc grŵp cyfeirio o bobl ifanc o bartneriaid ein prosiect (Lleisiau o Ofal, Tros Gynnal, Gweithredu dros Blant, Barnardos, Promo Cymru, Youth Friendly). Byddan nhw’n llywio datblygiad y prosiect, gan gynnwys y brandio, ac yn sicrhau bod yr holl wybodaeth yn addas i bobl ifanc.
Sicrhau cyfranogiad pob plentyn a pherson ifanc
Yn ogystal â gweithio gydag ysgolion a fforymau ieuenctid, rydyn ni’n datblygu ffyrdd o sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu bod yn rhan o Cymru Ifanc. Bydd hyn yn cynnwys gwefan, cyfryngau cymdeithasol, briffiadau a chylchgronau sy’n cynnwys gwybodaeth am y prosiect a manylion gwaith lleol a chenedlaethol. Byddwn ni’n gweithio gyda phobl ifanc i sicrhau bod y dulliau yn rhai deniadol, sy’n eu hannog i ymgysylltu.
Sicrhau effaith ar bolisi
Trwy gefnogi plant a phobl ifanc i gwrdd â Gweinidogion ac adrodd am waith ledled Cymru, bydd Plant yng Nghymru yn sicrhau bod gwrandawiad i’w lleisiau a’u bod yn cael effaith ar bolisi. Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod ni’n cael gwybod sut bu’r gwaith yn gwneud gwahaniaeth, a bod yr adborth hwnnw’n cael ei roi i’r plant a’r bobl ifanc.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Cymru Ifanc – Young Wales e-bostiwch ni yn Cymru.Ifanc@plantyngnghymru.org.uk, neu ar 029 2034 2434. Ewch i www.cymruifanc.cymru.
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
22.10.19 Coleg Brenhinol Paediatreg ac Iechyd Plant: Pleidlais #VoiceMatters
23.08.19 Lansio Gwneud Eich Marc 2019
21.08.19 Gwobrau Ieuenctid Mis Hanes Pobl Dduon Cymru (BHWYA) 2019, 21/08/2019 [C]
21.08.19 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn chwilio am brentisiaid newydd, 16/08/2019 [...
10.07.19 Addysg yn hanfodol i wneud Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn llwyddiant, ...
03.07.19 Senedd Ieuenctid Cymru yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y...
02.07.19 Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor yn ymrwymo i’r Siarter Cyfranogiad Genedlaeth...
16.02.17 Cynhadledd Flynyddol Cymru Ifanc, 16/02/17 [C]
18.11.16 Safonau Cenedlaethol Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc, 18/11/16 [C]
15.11.16 Bwlio a throseddau casineb anabledd – theatr fforwm i bobl ifanc, 15/11/2...
21.09.16 Yr agenda i blant, pobl ifanc a theuluoedd, 21/09/16 [C]
04.03.16 Cymryd rhan yn yr agenda yng nghynhadledd genedlaethol gyntaf Cymru Ifanc, ...
06.10.15 Pobl ifanc i gyflwyno eu hadroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawl...
22.10.19 Adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru: Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm
19.03.19 Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), 12/02/2019 [C]
18.03.19 Ymgynghori ar Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru)
16.02.18 Comisiwn y Cynulliad yn agor ymgynghoriad ar gynigion diwygio Cynulliad Cen...
19.12.17 Creu Senedd sy’n Gweithio i Gymru: Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygi...
10.10.17 Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru – Hydref 2017
19.07.17 Diogelu Dyfodol Cymru: Fersiwn addas i Blant a Phobl Ifanc
09.05.18 Digwyddiad Hawl i Holi Cymru Ifanc - Fersiwn fyr
09.05.18 Digwyddiad Hawl i Holi Cymru Ifanc
17.11.16 Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol dros Blant a Phobl ifanc
24.11.15 Taflen perthnasoedd iach
22.09.15 Taflen Cymru Ifanc - Young Wales
22.09.15 Poster Cymru Ifanc - Young Wales
13.05.11 Fideo Gofalwyr Ifanc
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks