Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru
#BrexitCYPWales
Fe wadwyd y cyfle i blant a phobl ifanc i gymryd rhan yn Refferendwm yr UE a benderfynodd y byddai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, er mai plant a phobl ifanc gaiff eu heffeithio fwyaf gan y penderfyniad i adael. Bydd hyn yn cael effaith ar ein haelodau hefyd, gan gynnwys gweithlu’r plant sy’n darparu gwasanaethau i gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.
Trwy weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau hawliau plant a chynghreiriau yng Nghymru, y DU ac Ewrop, mae Plant yng Nghymru’n gweithio ar raglen sy’n ystyried y goblygiadau i blant, eu teuluoedd a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi. Mae hyrwyddo ac amddiffyn hawliau plant a’r CCUHP yn sylfaen i’n gwaith.
Mae llawer o ansicrwydd yn parhau ynghylch Brexit a bydd angen i’n rhaglen waith fod yn ymatebol i newid. Fodd bynnag, mae ein hegwyddorion cyffredinol sy’n arwain ein gwaith yn cynnwys
- Na fydd unrhyw gamu yn ôl o ran hawliau presennol plant a phobl ifanc yng Nghymru fel rhan o’r broses negodi ar gyfer Brexit
- Na fydd unrhyw gamu yn ôl o ran hawliau presennol plant a phobl ifanc yng Nghymru yn dilyn y dyddiad gadael
- Bydd gan blant a phobl ifanc ddulliau ar waith er mwyn sicrhau y clywir eu lleisiau, fel rhan o broses Brexit
- Bod cyfleodd ar waith i ennyn diddordeb gweithlu’r plant a gwasanaethau sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.
- Sicrhau bod y sawl sy’n gwneud penderfyniadau’n cydymffurfio’n llawn gyda’r CCUHP drwy gydol y broses.
Gweithgareddau
Mae Plant yng Nghymru yn gweithio gyda’n haelodau a phartneriaid, gan gynnwys Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Eurochild a UK Child Rights Alliances, i gynhyrchu nifer o adroddiadau, ymatebion i ymgynghoriadau a briffiau yn gyfnodol. Gellir eu lawrlwytho o Adran Adnoddau’r wefan hon. I gyrchu digwyddiadau’r gorffennol ac yn y dyfodol, ewch i Adran Ddigwyddiadau’r wefan hon os gwelwch yn dda.
Cyswllt
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag info@childreninwales.org.uk os gwelwch yn dda.
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
Nid oes eitemau newyddion sy'n ymwneud â’r pwnc hwn.
Nid oes datganiadau i’r wasg sy'n ymwneud â’r pwnc hwn.
Nid oes polisïau sy'n ymwneud â’r pwnc hwn.
There are no upcoming training events relating to this subject.
There are no upcoming events relating to this subject.
Nid oes adnoddau sy'n ymwneud â’r pwnc hwn.
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks