Anabledd
Mae’r term ‘plant a phobl ifanc anabl’ yn disgrifio’r sawl sy’n dioddef gwahaniaethu ar sail eu nam a/neu eu cyflwr meddygol. Mae arferion gwahaniaethol fel agweddau negyddol, amgylcheddau anhygyrch a systemau sefydliadol yn gallu ei gwneud yn anodd ac weithiau’n amhosibl i blant a phobl ifanc anabl fwynhau’r un cyfleoedd â phlant heb anabledd.
Mae Plant yng Nghymru yn gweithio i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc anabl, ac i sicrhau bod eu hawliau a’u hanghenion yn cael eu diwallu. Mae Plant yng Nghymru yn cefnogi model cymdeithasol o anabledd. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n credu bod pobl anabl yn cael eu hanablu gan gymdeithas oherwydd y ffordd mae cymdeithas wedi ei threfnu. Mae hyn yn cyferbynnu â’r model meddygol o anabledd sy’n ystyried bod pobl yn cael eu hanablu gan eu namau. Mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i frwydo i wasanaethau gael eu darparu o safbwynt y model cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar gyfranogiad, cyflawniad a gallu ac i ganolbwyntio ar yr hyn mae plentyn yn gallu i wneud yn hytrach na’r hyn mae’n methu â’i wneud.
Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn cynnal gwaith penodol sy’n edrych ar anghenion plant a phobl ifanc anabl ers 1999. Mae ein gwaith presennol yn y maes hwn yn cynnwys:
- Gwaith datblygu polisi ac ymgyrchu ar draws yr ystod oedran
- Cyd-drefnu’r Grŵp Polisi Plant Anabl
- Gwaith gyda gweithwyr proffesiynol i amlygu a rhannu arfer da
- Cyd-drefnu Gyda’n Gilydd dros Hawliau, rhwydwaith o bobl anabl ifanc
- Cefnogi Datblygiad Cefnogi Cynnar yng Nghymru i blant dan 5 oed
- Darparu cyfres o gyrsiau hyfforddiant mewn perthynas â materion anabledd
- Trefnu digwyddiadau gwybodaeth anabledd ar amrediad o bynciau anabledd penodol
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r materion hyn cysylltwch â: Catherine Lewis, Swyddog Datblygu (Plant Anabl), ffôn: 029 20342434, e-bost: catherine.lewis@childreninwales.org.uk.
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
08.05.19 Model Cymdeithasol o Anabledd yng Nghymru - Ymunwch â'r Sgwrs
14.01.19 Cyflwyniad graddol Asesiadau Personol, 08/01/201 [C]
08.01.19 Sesiynau clwb hoci newydd i bobl 7 oed ac yn hŷn ag anableddau. 08/01/2019...
14.12.18 Grant AAA o £670,000 i wneud yn siŵr bod plant ag anghenion addysgol arbe...
27.09.18 Amddiffynwyr Hawliau Dynol Plant yn ymateb i ymgynghoriad y Diwrnod Trafod ...
19.12.17 Cymru yn pasio Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymr...
19.12.17 Ysgrifennydd Addysg yn amlinellu cynllun gweithredu arfaethedig am system a...
08.02.11 Gwefan newydd i gefnogi plant anabl ifainc a’u teuluoedd, 7/2/11 [C]
18.10.10 Mae Pobl Anabl Ifanc yn codi pryderon gyda’r Comisiynydd Plant, 19/10/10 ...
29.04.10 Addewid i Gefnogi Plant Anabl, 29/04/10
19.03.09 Cefnogi Teuluoedd Plant Anabl Ieuainc, 19/03/09 [C]
02.02.09 Cefnogi Teuluoedd Plant Anabl Ieuainc, 02/02/09
29.09.08 Y mae Prif Weinidog Cymru’n annerch Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr
23.09.08 Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf, 23/9/08...
18.06.19 Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r ymatebion i’r Cod Anghenion Dysgu Ychwa...
22.01.19 Crynodeb o Fil Awtistiaeth (Cymru) oddi wrth Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Ce...
12.12.18 Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, 10/12/2018 [C]
05.12.18 Côd ymarfer ar gyfer darparu gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth, 30/11/201...
31.10.18 Gweithredu ar anabledd: hawl i fyw’n annibynnol, 22/10/2018 [C]
31.10.18 Estyn: Parodrwydd ar gyfer Diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol, 30/10/201...
31.10.18 Parodrwydd ar gyfer Diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): ymateb y l...
27.09.18 Amddiffynwyr Hawliau Dynol Plant yn ymateb i ymgynghoriad y Diwrnod Trafod ...
10.04.17 Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru)
31.03.13 Fideo Dathlu Tair Blynedd o Gyrraedd y Nod
31.03.13 Dathlu tair blynedd o Gyrraedd y Nod
30.11.11 Bod â llais, bod â dewis
06.03.10 Gwefan Cefnogi Cymru
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks