Mae’r ystafell gynadledda, sydd â golau naturiol da, wedi’i lleoli ar y llawr gwaelod ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, gyda ramp mynediad yng nghefn yr adeilad. Gall yr ystafell ddal hyd at 20 o bobl ar ffurf theatr a 15 o bobl ar ffurf ystafell fwrdd ac mae modd trefnu ffurfiau eraill. Yn yr ystafell, mae taflunydd LCD, stand siart troi, papur a phinnau ysgrifennu, sgrîn, teledu a pheiriant recordio DVD/fideo. Gellir gwneud trefniadau i logi gliniadur ac offer arall am bris ychwanegol.
Mae gennym hefyd nifer o ystafelloedd cyfarfod bach y mae modd eu llogi, sydd hefyd yn cynnig ffôn a mynediad llawn at y rhyngrwyd.
Gellir trefnu lluniaeth ar y safle ond y llogwr fydd yn gyfrifol am drefnu ciniawau bwffe. Mae Plant yng Nghymru mewn cysylltiad rheolaidd ag arlwywyr lleol, felly gallwn argymell darparwyr.
Mae darpariaeth parcio ar y stryd gyda mesuryddion, ac mae nifer o feysydd parcio gerllaw. Gallwn ni ddarparu’r holl wybodaeth bydd arnoch ei hangen.
9:00am - 5:00pm
Aelodau £125
Eraill £180
9:00am - 12:30pm
neu
1:30pm - 5:00pm
Aelodau £75
Eraill £120
£4 y pen
£2.50 y pen