Gynghrair dros Fuddsoddi mewn Plant
Prosiect newydd dan arweiniad Plant yng Nghymru yw’r Gynghrair dros Fuddsoddi mewn Plant (y DU) gan weithio mewn partneriaeth â Plant yn yr Alban, Plant yn Lloegr a Plant yng Ngogledd Iwerddon trwy grŵp llywio cyrff yn y DU sy’n aelodau Rhwydwaith Cenedlaethol Eurochild. Mae Cynghrair y DU, a gafodd ei lansio’n gyhoeddus yng nghynhadledd Plant yn yr Alban yng Nghaeredin ym Mehefin, yn rhan o Gydweithrediad ehangach sy’n cael ei arwain gan glymblaid Cynghrair yr Undeb Ewropeaidd dros Fuddsoddi mewn Plant.
Nod y Cydweithrediad yw ‘sicrhau gweithrediad effeithiol Argymhelliad y Comisiwn Ewropeaidd ‘Investing in Children-Breaking the Cycle of Disadvantage’ drwy hwyluso cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid ar lefel yr Undeb Ewropeaidd a’r lefel genedlaethol a chefnogi gweithgareddau eiriol a chyfathrebu effeithiol’.
Mae’r Argymhelliad yn rhoi arweiniad defnyddiol i bob Aelod-wladwriaeth Ewrop ar sut i ymdrin â thlodi plant a hybu lles plant. Mae’n eiriol dros fuddiannau gorau’r plentyn, cyfleoedd cyfartal a chymorth i’r rhai mwyaf anfanteisiol ar yr un pryd â sicrhau darpariaeth gyffredinol o safon i bawb, sy’n ganolog i ymdrechion i drechu tlodi plant.
Disgwylir i’r Cydweithrediad gyfrannu at dri amcan gwleidyddol bras sef
- Sicrhau a chynnal yr ewyllys gwleidyddol i drechu tlodi plant a hybu lles plant
- Sbarduno a chefnogi diwygiad polisïau ac arfer ar sail yr hyn rydym yn gwybod ei bod yn gweithio orau i blant
- Cryfhau cyfranogiad ystyrlon rhanddeiliaid perthnasol mewn penderfyniadau ar bolisi cyhoeddus a dyrannu adnoddau ar gyfer plant
Bydd rhaglen weithgareddau Cynghrair y DU yn cynnwys –
- Datblygu Cynghrair y DU trwy adeiladu ar strwythurau cydweithio presennol
- Nodi cyfleoedd a chynllunio gweithgareddau a all gael eu darparu ar draws y 4 cenedl (ledled y DU) o dan faner Cynghrair y DU
- Digwyddiad cenedlaethol a fydd yn digwydd ar ddiwedd y flwyddyn (2014)
- Mynd ati i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Bydd Cynghrair y DU yn cynnal nifer o weithgareddau i gefnogi’r ymgyrch yn ystod gweddill 2014 ac yn ceisio defnyddio cyfleoedd o’r UE (Ewrop 2020; Tymor Ewropeaidd, Cronfeydd Strwythurol) i hybu buddsoddiad mewn plant. Rydym yn gofyn i wleidyddion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch hon a fydd yn dod i ben mewn cynhadledd ym mis Rhagfyr 2014
Mae buddsoddi mewn plant yn gwneud synnwyr cymdeithasol ac economaidd. Drwy roi blaenoriaeth i blant a phobl ifanc ym mhopeth a wnawn ni, rydym nid yn unig yn cadw ymrwymiad i gefnogi’r sawl sy’n cael eu taro’n galetach gan yr argyfwng, ond hefyd yn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau prin ac yn cyflawni arbedion yn y tymor hir. Mae ymyrryd ac atal yn gynnar yn arbed arian, yn amddiffyn plant ac yn gwobrwyo cymdeithas.
Adnoddau
Argymhelliad y Comisiwn Ewropeaidd Investing in children: breaking the cycle of disadvantage http://ec.europa.eu/social/BlobServlet?docId=9762&langId=en
Cynghrair yr Undeb Ewropeaidd dros Fuddsoddi mewn Plant – http://www.alliance4investinginchildren.eu/
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks