Tlodi
Mae Plant yng Nghymru wedi cynhyrchu amrediad o adroddiadau a phapurau briffio mewn perthynas â thlodi sydd ar gael isod. Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn Plant yng Nghymru yn cynhyrchu e-fwletin misol a gallwch chi weld hwn drwy glicio yma.
COVID and Families Welsh Report Final
Child and Family Poverty Survey Report Jul 2020 CYMRAEG
09.10.19
Papur briffio: galw o’r newydd am Gynllun Cyflawni ym maes Tlodi PlantYm mis Hydref 2016, i nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Tlodi y CU, cyflwynodd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN) 3 galwad lefel uchel ar Lywodraeth Cymru i ddwysáu ei hymdrechion a mwyafu’r adnoddau oedd yn cael eu neilltuo i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.
3 blynedd yn ddiweddarach, rydym ni’n dal i bryderu’n fawr bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn codi, a bod disgwyl iddynt gynyddu’n sydyn yn y dyfodol agos, wrth i lawer mwy o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd gael trafferth i dalu am gostau ac anghenion sylfaenol pob dydd.
Gan fod carreg filltir 2020 yn prysur nesáu, rydym yn ategu un o’r galwadau a gyflwynwyd gennym gyntaf yn 2016.


24.07.18
Ystyriaethau Allweddol o’r Arolwg o Dlodi Plant a Theuluoedd 2018Cafodd y cyflwyniad hwn ei roi i gyfarfod 04 Gorffennaf 2018 Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Blant a Phobl Ifanc gan Cheryl Martin, Swyddog Datblygu ar gyfer Tlodi yn Plant yng Nghymru.

06.12.17
Digwyddiad Rhanbarthol Tlodi Plant, De Ddwyrain Cymru – 17 Hydref 201718.09.17
Adroddiad o’r Gynhadledd Genedlaethol ar Dlodi PlantCynhaliwyd ein Cynhadledd Genedlaethol ar Dlodi Plant, O Dlodi i Ffyniant – Busnes i Bawb yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2017. Buon ni’n gweithio ochr yn ochr â’n haelod-sefydliadau a grŵp llywio Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, ac ar y cyd â nhw, a denodd ein digwyddiad dros 120 o weithwyr proffesiynol a phobl ifanc, yn ogystal ag ennyn llawer o ddiddordeb a sbarduno trafodaeth, a chael cryn sylw gan y cyfryngau yng Nghymru.

02.03.17
Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru: Canlyniadau Arolwg Plant a Theuluoedd 2016Mae Plant yng Nghymru wedi cynhyrchu adroddiad yn dilyn ein harolwg blynyddol sy’n edrych ar ba newidiadau sydd wedi digwydd ers ein hadroddiad ar dlodi teuluol yn 2014, Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru: Canlyniadau Arolwg Plant a Theuluoedd 2016.

26.01.16
Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru: Canlyniadau Arolwg Plant a Theuluoedd 2015Mae’r adroddiad hwn yn cynnig crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’n harolwg ar dlodi plant a theuluoedd. Daeth yr arolwg yn sgîl ein hadroddiad, Tlodi Plant a Theuluoedd yng Nghymru: Ciplun o faterion a godwyd gan deuluoedd a gyhoeddwyd yn 2014, a nododd yr ystyriaethau mwyaf cyffredin mewn perthynas â thlodi a gafodd eu codi gydag Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol, a Chyngor ar Bopeth.

Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks