Rhianta a Chymorth i Deuluoedd

24.11.15
Taflen perthnasoedd iachMae Cymru Ifanc yn dod ynghyd gyda Byw Heb Ofn i lunio taflen gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am Berthnasoedd Iach, fel rhan o ymgyrch Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru.

20.11.14
Canllaw Gofal gan Berthnasau i GymruBwriad y canllaw hwn, a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac a ddatblygwyd gan Plant yng Nghymru, yw cynnig gwybodaeth i ofalwyr sy’n berthnasau. Enw arall ar ofalwyr sy’n berthnasau yw teulu a ffrindiau sy’n ofalwyr. Y nod yw cynnig canllaw cam wrth gam trwy’r broses o ddod yn ofalwr sy’n berthynas, a chyfeirio at y gwasanaethau sy’n gallu cynnig cyngor, cefnogaeth a chymorth.

30.10.14
Cynhadledd Wythnos y Rhieni 2014
Thema cynhadledd Plant Yng Nghymru oedd cryfhau cyfraniad gwasanaethau cymorth rhianta at ymyriadau cynnar i gynorthwyo teuluoedd. Ystyriodd y cynadleddwyr negeseuon allweddol oddi wrth siaradwyr am ymchwil ymyrraeth gynnar, gan gynnwys prif egwyddorion a chynhwysion rhaglenni rhianta llwyddiannus.

07.01.13
Safonau Galwedigaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng NghymruMae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn ddatganiadau o gymhwysedd y cytunwyd yn genedlaethol arnynt sy’n disgrifio’r hyn y mae gweithiwr effeithiol a chymwys yn ei wneud ac y mae arno angen ei wybod i ddarparu ansawdd yn ei waith.

18.12.11
Oni bai amdanoch chi Nain….Dyma adroddiad o arolwg o Neiniau a Theidiau yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Plant yng Nghymru yn 2011. Mae’n ystyried amrediad o faterion mewn perthynas â rôl neiniau a theidiau gan gynnwys gofal plant, cefnogaeth ariannol, effaith chwaliad y teulu a sut mae neiniau a theidiau yn treulio amser gyda’u hwyresau a’u hwyrion.

31.03.11
Help wrth LawY mae Plant yng Nghymru wedi ysgrifennu’r llyfryn hwn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru ac aelodau Ymgyrch ‘Sdim Curo Plant!/Children are Unbeatable! Y bwriad wrth wraidd hyn yw darparu syniadau ar gyfer rhieni plant ifanc ynglˆyn â ffyrdd buddiol o ymdrin ag ymddygiad plant, gan gynnwys dulliau eraill yn lle taro plant.

31.03.11
Ymddygiad dros ben llestri mewn plant dan ddegMae’r llyfryn hwn yn rhoi cyngor i rieni sydd â phlant o dan ddeng mlwydd oed. Mae’n cynnig amrediad o gymorth ymarferol ac yn helpu rhieni i ddeall beth yw ymddygiad normal plant a ble gall fod problemau mwy difrifol.

Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks