Plant sy’n Derbyn Gofal
12.02.20
Diweddariad prosiect i weithwyr proffesiynolMae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Plant yng Nghymru dros gyfnod o dair blynedd i ddatblygu adnoddau newydd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd mewn gofal ledled Cymru, ac ar gyfer y gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi.
Mae pob canllaw wedi cael ei lunio i helpu pobl ifanc i gael mynediad i wybodaeth, cyngor a chymorth.

12.02.20
Cadw mewn cysylltiad â’ch teuluOs ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc mewn gofal, mae gennych chi hawl i ddweud beth hoffech chi ei weld yn digwydd pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch pa mor aml rydych chi’n gweld eich teulu biolegol. Gallai hynny gynnwys gweld neu siarad â’ch rhieni biolegol, brodyr a chwiorydd, modryb neu ewythr, cefnder neu gyfnither – unrhyw un sy’n bwysig i chi yn eich bywyd.
Bydd y canllaw yma’n eich helpu i ystyried pwy sy’n bwysig i chi a pha mor aml rydych chi eisiau eu gweld nhw. Bydd yn rhoi gwybodaeth i chi am y gyfraith, eich hawliau, a beth i’w wneud os ydych chi’n anfodlon ar unrhyw benderfyniadau. Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn fater pwysig iawn i lawer o blant a phobl ifanc ledled Cymru.

27.08.19
Fe ddwedsoch chi, fe wrandawon ni!Mae prosiect Ymwneud yn Fwy â Gofal Cymdeithasol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ledled Cymru, yn eu haddysgu am eu hawliau, yn eu holi am bethau sy’n bwysig ac yn gweithio ar y cyd i gyhoeddi canllawiau Newydd ar gyfer plant a phobl ifanc eraill sydd mewn gofal.

20.03.19
Lleisio barn ar dy addysgCanllaw addysg yw hwn ar gyfer pobl ifanc sydd mewn gofal ledled Cymru. Bydd pob person ifanc yn cael profiad gwahanol yn yr ysgol, ond mae’n bwysig bod pawb ohonoch chi’n cael cefnogaeth yn yr ysgol i fod y gorau gallwch chi fod. Bydd y canllaw yma’n sôn wrthyt ti am dy hawliau i gael addysg ac am y gyfraith yng Nghymru. Bydd yn dweud wrthyt ti beth yw cyfarfod cynllunio addysg bersonol a sut mae cael mwy o gyfle i roi dy farn.

01.02.19
Ymwneud yn Fwy â Gofal Cymdeithasol: Canllaw ar gyfer Nyrsys Arbenigol ar gyfer Plant sy’n Derbyn GofalMae’r canllaw hwn wedi cael ei gynhyrchu ar y cyd gan Plant yng Nghymru a Nyrsys Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG) Cymru. Mae’n cynnwys arweiniad i ymarfer ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, ac mae wedi’i fwriadu’n offeryn allweddol i gyfeirio ato ar gyfer nyrsys sy’n cefnogi anghenion iechyd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ledled Cymru.

20.09.18
Arian a chyllidebuBydd y canllaw yma yn dy helpu i ddeall sut mae rheoli dy arian a chyllidebu. Mae’n ganllaw ar gyfer pobl ifanc 15 oed a throsodd.

16.07.18
Sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn eich cyfarfod adolyguGall sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn eich cyfarfod adolygu fod yn her! Bydd y canllaw yma yn rhoi awgrymiadau a syniadau ymarferol i chi ynghylch sut mae chwarae mwy o ran yn y dyfodol.

10.05.18
Cymryd Mwy o Ran mewn Gofal Cymdeithasol – Newyddion Diweddaraf y Prosiect Mai 2018Mae Cymryd Mwy o Ran mewn Gofal Cymdeithasol yn brosiect 3-blynedd sy’n cael ei ddatblygu gan Plant yng Nghymru. Fel rhan o’r gwaith hwn rydym ni’n gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i ddatblygu canllawiau ar bynciau sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant fel hawliau, iechyd meddwl, a bwyd ac ymarfer

27.10.17
Asesiadau iechyd a chynlluniau iechydNod yw arweiniad yma yw dy helpu di i ddeall asesiadau iechyd a chynlluniau iechyd.

09.10.17
Ymwneud yn Fwy: Diweddariad a diolch!Mae prosiect Cymryd Mwy o Ran mewn Gofal Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl ifanc brofiadol ym maes gofal ledled Cymru ers mwy na blwyddyn erbyn hyn. Rydyn ni wedi datblygu rhai adnoddau ardderchog sydd ar gael ar-lein nawr.

Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks