Atal Damweiniau
Mae Plant yng Nghymru wedi cynhyrchu amrediad o adnoddau mewn perthynas ag atal damweiniau sydd ar gael isod. Mae Rhwydwaith Arfer Atal Damweiniau Plant a’r Gyfnewidfa Wybodaeth yn Plant yng Nghymru hefyd yn cynhyrchu e-fwletinau rheolaidd ac mae’r rhain ar gael yma.
08.03.14
Gwenwyno nicotinMae’r adnodd hwn, a gynhyrchwyd gan Plant yng Nghymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynghori rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol am beryglon gwenwyno nicotin i blant o gynhyrchion fel gwm, clytiau nicotin ac e-sigarennau yn ogystal â chynhyrchion sigarennau.

18.02.14
Taflen Sachau ClytiauCafodd y daflen hwn ei gynhyrchu gan Plant yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain. Mae’n cael ei ddefnyddio i amlygu’r peryglon i fabanod o fygu a thagu ar sachau clytiau.

18.02.14
Poster Sachau ClytiauCafodd y poster hwn ei gynhyrchu gan Plant yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain. Mae’n cael ei ddefnyddio i amlygu’r peryglon i fabanod o fygu a thagu ar sachau clytiau.

30.07.13
Cadwch eich ‘liqui-tabs’ dan gloCafodd y poster hwn ei gynhyrchu gan Plant yng Nghymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n rhoi gwybod i rieni am beryglon gwenwyno gan dabiau golchi hylif.

30.05.13
Diogelwch Plant yng Nghymru: Enghreifftiau o Ymyriadau ar WaithMae Plant yng Nghymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n rhoi enghreifftiau ymarferol o weithgarwch atal damweiniau yng Nghymru. Mae’r enghreifftiau hyn yn cynnig cipolwg ar bob prosiect, gan gynnwys gwybodaeth am bartneriaethau, gweithredu, cost, cynaladwyedd yr ymyrraeth ac unrhyw heriau arbennig sydd wedi cael eu hwynebu ar hyd y ffordd.

31.01.13
Cwis Atal DamweiniauMae’r cwis hwn wedi cael ei ddatblygu gan Plant yng Nghymru i hyfforddwyr ei ddefnyddio mewn sesiynau am atal damweiniau. Mae’n cynnig ffordd ddiddorol a chofiadwy o gyflwyno ffeithiau ynghylch atal damweiniau.

06.06.12
Cerdyn Adnodd Diogelwch Plant Cymru 2012Mae’r cardiau hyn yn rhoi gwybodaeth am bolisïau a deddfwriaeth diogelwch plant yng Nghymru yn ogystal â chymariaethau â mesurau atal anafiadau plant ledled Ewrop. Mae’r cerdyn yn cael ei gynhyrchu fel rhan o brosiect Ewropeaidd gan Gynghrair Diogelwch Plant Ewrop. Plant yng Nghymru sy’n cynrychioli Cymru ar y Gynghrair ac a fu’n gyfrifol am goladu llawer o’r wybodaeth mewn perthynas â Chymru.

06.06.11
Gwnewch hi’n Ddiogel: Lleihewch y risg o gordiau a chadwyni dolennogMae’r daflen hon yn rhoi cyngor am beryglon cordiaau cysgodlenni. Cafodd ei chynhyrchu gan y British Blind and Shutter Association, gyda chyngor RoSPA a’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant. Plant yng Nghymru a fu’n gyfrifol am sicrhau cyfieithiad Cymraeg o’r daflen.

06.03.11
Pecyn Hyfforddiant SgaldiadauMae’r pecyn hyfforddiant hwn yn rhoi cynlluniau sesiwn ac adnoddau eraill i’r sawl sy’n darparu hyfforddiant am sgaldiadau.

06.03.11
Pecyn Hyfforddiant GwenwynoMae’r pecyn hyfforddiant hwn yn rhoi cynlluniau sesiwn ac adnoddau eraill i’r sawl sy’n darparu hyfforddiant am wenwyno.

Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks